
Dyffryn Dyfi
O Greiglyn Dyfi i Aberdyfi
Ar droed, mae gwersyllfa Glyndŵr 30 munud o dref farchnad hanesyddol Machynlleth yn Nyffryn Dyfi, ac mae wedi leoli yn unig Biosffer UNESCO Cymru. O ganlyniad i’w leoliad a’r diwydiant wledig traddodiadol mae’r tirwedd yn ogoneddis a chynefin naturiol yr ardal yn amrywiaethol.
Mae’n rhwydd cyrraedd Parc Cenedlaethol Eryri o Fachynlleth, gyda thaith bws yn eich cludo i droed Cadair Idris a siwrne trên byr yn arwain at draethau prydferth yr arfordir.
Mae digonedd o fwytai yn yr ardal ac mae gan Fachynlleth lawer o siopau annibynnol diddorol, galeri gelf, canolfan hamdden, siopau bwyd a gorsaf betrol. Dydd Mercher yw diwrnod marchnad yn y dref.
​
Mae hefyd nifer o warchodfeydd natur, cestyll, safleoedd hanesyddol ac adeiladau eiconig i’w ymweld yn gyfagos.
Cerdded
Llwybrau Cerdded Cenedlaethol a Lleol
Agorwyd y wersyllfa yn 2024 yn dilyn nifer o sgyrsiau gyda cherddwyr a seiclwyr oedd angen llety. Rydym yn ganolbwynt ar gyfer y rheini sy’n dilyn taith 135 milltir Llwybr Glyndŵr ac yn gyrchfan ar gyfer cerddwyr ar Lwybr Arfordir Cymru gan fod rhan 3 a 4 yn cynghroesi ym Machynlleth.
Mae Ffordd Dyffryn Dyfi yn lwybr arall a’i mwynheir gan gerddwyr. Mae'n dilyn ochr ogleddol yr Afon Ddyfi o'r aber i'w tharddiad ar gopa’r Aran Fawddwy ac yna yn ôl i lawr i Fachynlleth ar ochr ddeheuol yr afon.
​
Os ydych chi’n ffafrio llwybrau byrrach, mwy lleol, mae digonedd o ddewis, gyda manylion nifer ohonynt i’w ddarganfod ar fap digidol rhyngweithiol biosfferdyfi.cymru



Beicio
Beicio Mynydd a Llwybrau a Teithiau Seiclo
Mae gan Ganolbarth Cymru rywbeth i’w gynnig i feicwyr o bob math, a thros y blynyddoedd diwethaf mae Machynlleth a’r ardal cwmpasol wedi dod yn gyfystyr â beicio mynydd a seiclo llwybr. Rydym ar ddechrau Llwybr Beicio Traws Eryri a chymal Eryri o’r daith Lôn Las.
Mae nifer o rasys wedi’i chynnal yma ar y fferm ym Machynlleth ac rydym nepell o Barc Beicio Dyfi sef 650 erw o lwybrau beicio wedi’i hadeiladu gan Dan Atherton, y cyn-bencampwr PF ar gyfer beicio mynydd.
Mae llwybrau beicio llai heriol hefyd ar gael gerllaw, gyda Llwybrau Mawddach, Ystwyth ac Elan yn rhedeg ar hyd rheilffyrdd diddefnydd ac yn brolio golygfeydd mawreddog.
Natur
Gwarchodfeydd, Coedwigoedd a'r Arfordir
Mae tirwedd Dyffryn Dyfi yn gymysgedd o laswelltir gwlyb, morfa heli, coetir conwydden hynafol, ffridd ac ucheldir. Mae defnydd tir, yr hinsawdd arforol a’r dopograffeg wedi siapio ein cynefinoedd naturiol a gellir mwynhau ac arloesi’r rhain yn ystod eich arhosiad.
Mae nifer o warchodfeydd bywyd gwyllt gerllaw gan gynnwys Ynyshir (4.5 milltir), Glaslyn (6 milltir), Cors Dyfi (2.5 milltir), Abercorris (5.5 milltir) a Chwm Cletwr (6.5 milltir).
Fe gynigir cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cors Dyfi ac RSPB Cymru yn Ynyshir.
