
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau cymunedol ar y safle wedi'u lleoli yn yr ysgubor gyfagos ac maent yn cynnwys cegin fach â bwrdd bwyta, dwy ystafell ymolchi fawr gyda chawodydd poeth, toiledau a basnau, yn ogystal ag ardal ymlacio ar y lefel mesanîn.
Darperir cyfleusterau ailgylchu yn yr ysgubor, mae gennym finiau didoli, a gofynnwn yn garedig i wersyllwyr ein cynorthwyo cadw safle Cymru fel yr ail wlad orau yn y byd ar gyfer ailgylchu!
Bothi Cerddwyr
Mae bothi’r cerddwyr yn gaban bach sy'n cysgu hyd at ddau ac yn berffaith ar gyfer rai sy’n ffafrio teithio heb babell.
Mae’r bothi’n gyfarparedig a wifi, goleuadau a mannau trydanu ffôn. Rydym yn darparu 'futon' ddwbl gyda matres, cynfas a chlustogau ond bydd angen dod a sach gysgu eich hun.
Fel arall, mae modd rentu sach gysgu am £7.50 y person. Mae yna hefyd bwrdd adain, silffoedd sylfaenol, bachau, chwaraewr dvd’s a detholiad o lyfrau a ffilmiau ar eich cyfer.
Mae'r balconi awyr agored yn dal yr haul fel y gallwch ymlacio a mwynhau'r machlud ar nosweithiau cynnes yr haf. Ar nosweithiau gwlyb a gwyntog gallwch gynnau'r stôf goed a swatio dan do. Mae bwndel pren wedi'i gynnwys yn y pris ac mae'r bothi wedi'i inswleiddio'n dda iawn, ond pe bai angen mwy o bren arnoch mae ar gael i'w brynu.
Mae pob amwynder arall - y gegin fach, toiledau, ystafelloedd ymolchi a’r ardal eistedd mesanîn yn yr ysgubor wersylla gyffredin gerllaw, ac ar gael ar gyfer eich defnydd.
Nodir fod y pris yn seiliedig ar ddau berson yn rhannu ac nid oes gostyngiad ar gyfer unigolyn.
Os ydych yn mwynhau’r awyr agored ond yn hoff o gysur cartref, byddwch yn mwynhau arhosiad yn y bothi.




Cysylltu
Gwersyllfa Glyndŵr Campsite, Brynglas, Glaspwll.
Machynlleth, Powys, SY20 8TY
07940 756070 || 07870 918319