top of page
Bwcio
Rydym ar agor ar gyfer GWERSYLLA PEBYLL a FANIAU WERSYLLA BACH i cherddwyr a seiclwyr rhwng y 1af o Ebrill a’r 31ain o Fedi.
Mae arosiadau BOTHI ar gael drwy gydol y flwyddyn (*yn rhwym i argaeledd).
I archebu lle neu wirio argaeledd cysylltwch ar 07940 756070 neu 07870 918319. Mae croeso i chi adael neges os oes angen ac mi atebwn yn brydlon.
Gallwch hefyd cysylltu drwy’r e-bost glyndwrcamping@gmail.com neu lenwi’r ffurflen gyswllt ar y wefan.
Gallwch archebu'r bothi neu wersylla ar-lein os yw'n well gennych, cliciwch ar un o'r botymau isod i wneud hynny.
Mae Gwersyllfa Glyndŵr yn safle oedolion yn unig, ond os ydych yn cynllunio ymdaith wersylla ieuenctid neu’n bwriadu ymweld yn all dymhorol mae croeso i chi gysylltu.
Ni chaniateir cŵn ar y safle.
Mae croeso i chi ddewis ble i godi’ch pabell ar gyrhaeddiad ond ni chaniateir cerbydau ar y cae gwersylla. Mae maes parcio gerllaw, ac fe ddarperir berfâu i westeion ddadlwytho eu cerbydau os oes angen.
Mae'r maes ar gyfer faniau gwersylla ar wahân ac ar gyfer cerbydau yn unig.
Diolch
Nick a Liz
PRISIAU
Gwersylla pabell £15 y person
Arhosiad Bothi £45 cysgu hyd at ddau.
(prisau bwcio uniongyrchol)
I gadarnhau man gwersylla neu arhosiad bothi mae modd talu ymlaen llaw dros y ffon gyda charden neu drwy drosglwyddiad banc.
Os nad ydych wedi talu o flaen llaw mae croeso i chi wneud ar garden, Apple Pay, Google Pay, gyda arian parod neu drosglwyddiad banc ar eich cyrhaeddiad.
Mae croeso i wersyllwyr gyrraedd unrhyw bryd ar ôl 1y.p. Gofynwn i westeion sydd yn aros yn y bothi cyrraedd ar ôl 3y.p.
Rydym yn gofyn i wersyllwyr ac arhoswyr bothi ymadael cyn 11y.b ar ddiwrnod eu hymadawiad.
bottom of page